System ysgrifennu a luniwyd gan Iolo Morganwg ar ddiwedd y 18g yw Coelbren y Beirdd.
Yn ôl Iolo, dyma'r wyddor hynafol a ddefnyddid gan yr hen Gymry a'r Brythoniaid. Honnai iddynt eu hetifeddu gan y Derwyddon. Mae'r ymadrodd "naddu gwawd" (gwawd="barddoniaeth, cân") yn drosiad a geir yn aml yng ngwaith y beirdd canoloesol o gyfnod y Gogynfeirdd ymlaen. Ysbrydolwyd Iolo gan hyn i gredu fod y beirdd a dysgedigion yr hen Gymry yn cofnodi eu cerddi a'u gwybodaeth mewn llyfrau pren â'r geiriau wedi'u "naddu" ynddynt: dyma'r "Beithynen".
Bu peth amheuaeth am honiad Iolo ar y dechrau, ond yn 1840, ar ôl marwolaeth Iolo, cyhoeddodd ei fab Taliesin y llyfr Traethawd ar Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd a chafodd y Goelbren ei derbyn gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Fe'i gwelir hyd heddiw ar gadeiriaueisteddfodol.
Gwyddys erbyn heddiw nad oes sail hanesyddol o gwbl i'r Goelbren a'i bod yn ffrwyth dychymyg toreithiog Iolo.[1][2][3][4]