Coginiaeth yr Ariannin

Asado de vaquilla con cuero

Cyfuniad o fwydydd ac arferion yr Hen Fyd a'r Byd Newydd yw coginiaeth yr Ariannin. Pryd o dair rhôl felys (medialunas) a choffi, megis yr arfer Ffrengig, yw'r brecwast cyffredin. Pennir adegau bwyta gan y traddodiad Sbaenaidd, hynny yw cinio canol dydd a swper wedi 9 y.h. sy'n cynnwys seigiau Eidalaidd. Amlygir blasau America Ladin gan gig eidion ar y gridyll, sy'n fwy poblogaidd o lawer na chigoedd eraill.[1]

Ceir tri chwrs efo gwin a dŵr yn aml am ginio a swper, ac weithiau coffi neu de dail i orffen. Am gwrs cyntaf gweinir seigiau ysgafn megis pionono, empanada, vitel tone, matambre a primavera. Nodweddiadol o goginiaeth America Ladin yw seigiau'r ail gwrs: tortila, milanesa, churrasco, asado de tira, salchicha a chorizo, a mondongo, ac hefyd bwydydd Eidalaidd megis y ñoquis.

Y ddau prif fath o fwyty sy'n gweini ciniawyr Archentaidd yw'r restaurante cyffredin a'r parrilla sy'n arbenigo mewn cig wedi ei rostio ar y gridyll. Y parrilla neu'r asador yw'r enw a roddir i'r gridyll ar gyfer y ddau fath o gig: rhostio tameidiau o gig o bob math uwchben tân yw parillada; hanner oen neu weithiau gafr wedi ei rhostio o flaen tân ar fath o groes haearn yw’r asado. Yn aml iawn mewn parrilla ceir tenedor libre (fforc rydd): bwrdd yn llawn salad i’w fwyta cyn y cig. Adnabyddir Buenos Aires am ei stecdai, yr asados criollos.[1]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Argentina: Daily life and social customs. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mai 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne