Math | tref, ardal ddi-blwyf, plwyf sifil, tref farchnad, dinas |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Colchester |
Poblogaeth | 121,859 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Colne |
Cyfesurynnau | 51.88861°N 0.90361°E |
Cod OS | TL997254 |
Cod post | CO1 – CO7 |
Tref farchnad yn Essex, Dwyrain Lloegr, yw Colchester[1] (Hen Gymraeg: Caer Colun).[2] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Colchester. Saif ar Afon Colne.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Colchester boblogaeth o 138,753.[3]
Yn ôl traddodiad, cafodd ei sefydlu gan Cunobelinus (Cynfelyn yn y traddodiad Cymreig) tua'r flwyddyn OC 10. Tyfodd i fod yn un o ddinasoedd pwysicaf y Brydain Rufeinig, sef Camulodunum. Gellir gweld rhannau o'r muriau Rhufeinig o hyd. Mae ganddi gastell Normanaidd yn ogystal.
Cafodd y gwleidydd o Gymraes Helen Mary Jones ei geni yno yn 1960.