Coleg Brenhinol y Meddygon

Coleg Brenhinol y Meddygon
MathQ97073555, sefydliad addysgiadol, sefydliad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Camden
Sefydlwyd
  • 1518 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5258°N 0.145°W Edit this on Wikidata
Map

Cymdeithas broffesiynol ar gyfer meddygon yn y Deyrnas Unedig yw Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg: Royal College of Physicians). Ei nod yw gwella arfer meddygaeth, yn bennaf trwy ddarparu achrediad i feddygon trwy arholiadau.

Fe'i sefydlwyd ym 1518 gan Siarter Brenhinol o Harri VIII, ac fe osododd y safon ryngwladol gyntaf wrth ddosbarthu afiechydon. Mae ei lyfrgell yn cynnwys testunau meddygol o ddiddordeb hanesyddol mawr. Mae ganddo hefyd amgueddfa ar hanes meddygaeth.[1]

Lleolir y sefydliad wrth ymyl Regent's Park, Llundain. Dyma un o'r ychydig adeiladau a godwyd ers yr Ail Ryfel Byd i gael statws rhestredig Gradd I; fe'i dyluniwyd gan y pensaer Syr Denys Lasdun.

Adeilad y Coleg
  1. Gwefan Amgueddfa y Coleg

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne