Coleg Dulwich

Coleg Dulwich
Enghraifft o:ysgol annibynnol, ysgol breswyl Edit this on Wikidata
Label brodorolDulwich College Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Dechrau/Sefydlu1619, 1 Ionawr 1908 Edit this on Wikidata
LleoliadDulwich Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddEdward Alleyn Edit this on Wikidata
Gweithwyr469 Edit this on Wikidata
Enw brodorolDulwich College Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthDulwich, Southwark Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dulwich.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Coleg Dulwich yn ysgol fonedd yn ne Llundain. Fe'i sefydlwyd gan yr actor a rheolwr theatrau Edward Alleyn yn 1616 wedi iddo (yn ôl y chwedl) weld y diafol ar lwyfan wrthhau'r sefydliad yn 1619. Sefydliad elusennol Cristnogol oedd hi i ddechrau, gyda'r nod o addysgu dwsin o fechgyn a merched tlawd, a chodwyd capel sydd yn dal yn gysylltiedig â'r Coleg ym mhentref Dulwich. Tua chanol y 19g, gyda datblygiadau ym myd addysg, teimlwyd bod angen diwygio sail y sefydliad, a ffurfiwyd yr ysgol sydd yn bodoli heddiw. Codwyd adeiladau helaeth mewn brics coch sydd yn adlewyrchu adeilad Palas Doge yn ninas Fenis ac dir agored ychydig i'r de o'r hen bentref.

Daeth yr ysgol i gael ei hystyried fel un o ysgolion bonedd pwysicaf yn Lloegr, gyda llawer o'r disgyblion yn blant i swyddogion yn y fyddin neu yng ngwasanaeth sifil y trefedigaethau - ac India'n arbennig. Roedd nifer o dai preswyl yn gysylltiedig â'r ysgol, er (oherwydd ei lleoliad heb fod ymhell o faesdrefi Llundain) yr oedd llawer o'r bechgyn yn ddisgyblion a aeth adref bob nos.

Yn 1882 rhannwyd y Coleg yn ddwy, gan greu Ysgol Alleyn i Fechgyn hefyd,[1] ac yn ddiweddarach Ysgol Ragbaratoawl Dulwich, i gyd o'r un gwaddoliad elusennol cyfoethog.

Daeth yr ysgol i gael ei hystyried fel un o ysgolion bonedd pwysicaf yn Lloegr, gyda llawer o'r disgyblion yn blant i swyddogion yn y fyddin neu yng ngwasanaeth sifil y trefedigaethau - ac India'n arbennig. Roedd nifer o dai preswyl yn gysylltiedig â'r ysgol, er (oherwydd ei lleoliad heb fod ymhell o faesdrefi Llundain) yr oedd llawer o'r bechgyn yn ddisgyblion a aeth adref bob nos.

Arhosai'r ysgol yn boblogaidd gyda'r dosbarth canol uwch megis gweision sifil yr Ymerodraeth a'r lluoedd arfog tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond mae'n debyg bod rhywfaint o brinder ceisiadau am leoedd wedi hynny a wnaeth arwain at chwilio ymhellach am ffynhonell o ddisgyblion. Yn ystod y 1950au cynhaliwyd yr "Arbrawf Coleg Dulwich" ("Dulwich College Experiment"), sef mynd ati o fwriad i ymestyn "breintiau" addysg y dosbarth uwch i fechgyn o gefndir mwy distadl. Ar yr un pryd, roedd yr awdurdodau lleol dan straen i ganfod digon o leoedd yn eu hysgolion i gwrth â'r galw cynyddol a ddaeth efo'r nifer cynyddol o blant a aanwyd ar ôl diwedd y rhyfel. Talodd Cynghorau Sir Llundain, Swydd Caint ac (i raddau llai) Swydd Surrey am leoedd i fechgyn oedd wedi llwyddo'n dda yn arholiad yr 11+. Serch hynny, roedd Coleg Dulwich yn mynnu cymryd ond y rhai a hoffent wedi proses o gyfweld. Ochr yn ochr â hyn, parhaodd nifer o fechgyn gyda chysylltiadau tramor neu gyda'u rhieni yn y lluoedd arfog i aros yn yr hostelau preswyl.

Erbyn hyn, mae merched hefyd yn cael eu derbyn, ac mae saith o sefydliadau ar draws y byd sydd yn rhan o'r coleg ehangach.

Mae cymdeithas hen ddisgyblion bywiog yn ôl yr hanes sydd ar eu gwefan.[2] Gelwir cyn-ddisgyblion yn Hen Alleyniaid neu OAs (sef "Old Alleynians"). Ymysg y rhai a aeth i'r Coleg yr oedd Ernest Shackleton - y mae'r cwch a hwyliodd o'r Antarctig i De Georgia - i'w weld yn y Coleg hyd heddiw. Eraill a fynychodd yr ysgol oedd Bob Monkhouse (y comedïwr), C.S. Forester a P.G. Wodehouse (nofelwyr) a Nigel Farage.

Cyfeirir yn wastad at y prifathro fel "y meistr" (the master) gan mai pennaeth y sefydliad gwreiddiol yn 1619 oedd y meistr. Gelwir athrawon yr ysgol yn "feistri cynorthwyol" (assistant masters). Fiona Angel yw meistr presennol yr ysgol, ac er mai dynes yw hi, parheir i arddel y teitl o feistr.

Ymysg yr athrawon mwyaf amlwg a fu'n dysgu yn Dulwich, roedd John Gwilliam, cyn-gapten tîm rygbi cenedlaethol Cymru, a fu'n athro hanes ac yn bennaeth adran dosbarthiadau 1 a 2 yr ysgol yn y 1950au a'r 60au cynnar.[3]

Mae gan yr ysgol stor o archifau gwerthfawr, ac yn bennaf efallai ymysg y dogfennau ceir Dyddiadur Henslowe.[4] Roedd Philip Henslowe'n reolwr ar theatrau yn Llundain ar adeg Shakespeare ac Alleyn, a'r dyddiadur yw'r brif ffynhonell am hanes y theatr Elisabethaidd. Mae'r archifau'n rhan o Llyfrgell y Meistr (rhywle na chaiff y disgyblion fynd!) ac ymysg sawl drysor ceir copi gwreiddiol o Feibl William Morgan.

Mae Oriel Luniau Coleg Dulwich yn deillio o'r un sefydfliad, ac mae'n cynnwys llawer o luniau pwysig. Sefydlwyd yn 1811 gan Sir Francis Bourgeois. Roedd o wedi penderfynu rhoi ei gasliad o gelf i'r Oriel Genedlaethol yn Llundain, ond fe'i wrthodwyd, ac fe benderfynbodd roi'r casgliad i Goleg Dulwich - er nad oedd unrhyw gysylltiad amlwg rhyngddo â'r ysgol.

Erbyn hyn, er bod tua 120 o ysgoloriaethau ar gael, nid yw'r ysgol yn agored i ddisgyblion sydd yn derbyn eu haddysg trwy bwrs y wlad, ac mae angen talu ffioedd o tua £22,000 ar gyfer disgyblion dydd, a £48000 ar gyfer disgyblion preswyl bob blwyddyn.[5]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd anfonwyd plant Ysgol Ragbaratoawl Dulwich i dreulio'r rhyfel ym mhentref Betws-y-coed, ac mae plac yn cofnodi cyfnod y bechgyn fel faciwîs yn yr eglwys yno. Adroddir stori'r cyfnod mewn llyfr gan brifathro'r ysgol ragbaratoawl ar y pryd, H.M. Leakey, dan y teitl Ysgol Errant.

  1. Gwefan Ysgol Alleyn [1], cyrchwyd 09/01/2025
  2. [2], cyrchwyd 10.01.2025
  3. Gwybodaeth bersonol
  4. https://shakespearedocumented.folger.edu/resource/document/henslowes-diary-including-first-recorded-performances-henry-vi-and-titus, lle ceir sgan o'r ddogfen [3], cyrchwyd 21.01.2025
  5. Gwefan Coleg Dulwich

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne