![]() | |
![]() | |
Math | coleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, adeilad prifysgol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Girton, Swydd Gaergrawnt ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal De Swydd Gaergrawnt, Dinas Caergrawnt ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.2286°N 0.0839°E ![]() |
Cod OS | TL4245060932 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Emily Davies, Barbara Bodichon, Henrietta Stanley ![]() |
Manylion | |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Girton (Saesneg: Girton College). Fe'i sefydlwyd ar 16 Hydref 1869[1] gan Emily Davies a Barbara Bodichon, y coleg preswyl cyntaf i fenywod yn Lloegr. Fe'i lleolwyd yn Swydd Hertford ar y cychwyn, ond yn 1872 prynwyd y safle presennol, oddeutu dwy filltir a hanner o ganol Caergrawnt ar Ffordd Huntingdon ger pentref Girton. Yn 1873, ail-agorodd y coleg ar y safle newydd dan ei enw presennol. Fe wnaed sawl ychwanegiad i adeiladau'r coleg dros y flynyddoedd, gan gynnwys estyniad diweddar i'r llyfrgell.
Ar 27 Ebrill 1948 estynnwyd aelodaeth lawn Prifysgol Caergrawnt i ferched, a daeth Girton yn un o golegau'r brifysgol. Mae Girton yn goleg cymysg erbyn hyn; cyrhaeddodd y cymrodyr gwrywaidd cyntaf ym 1977, ac estynnwyd mynediad i is-raddedigion gwrywaidd ym 1979.
Meistres y coleg yw'r Athro-Foneddiges Marilyn Strathern.