Coleg Sant Pedr, Prifysgol Rhydychen | |
![]() | |
Sefydlwyd | 1929 |
Enwyd ar ôl | Sant Pedr |
Cyn enw | Neuadd Pedr (1929-1961) |
Lleoliad | New Inn Hall Street, Rhydychen |
Chwaer-Goleg | dim chwaer-goleg |
Prifathro | Judith Buchanan |
Graddedigion | 350[1] |
Graddedigion | 198[1] |
Myfyrwyr gwadd | 19[1] |
Gwefan | www.spc.ox.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Sant Pedr (Saesneg: St Peter's College). Saif ar safle canolog yn Stryd New Inn Hall yn Rhydychen, Lloegr. Adeiladwyd ar safle dau o'r Inns hŷnaf y Canol Oesoedd, neu westai canoloesol y brifysgol – yr un Esgob Trellick, yn ddiweddarach New Inn Hall, a Rose Hall – sefydlwyd y ddau yn y 13eg ganrif.
Mae hanes y coleg modern yn dechrau yn 1929 pan sefydlwyd Neuadd Sant Pedr gan Francis James Chavasse, Esgob Anglicanaidd Lerpwl. Yn 1961, cafodd Neuadd Sant Pedr ei enwi yn goleg llawn Prifysgol Rhydychen â'r enw Coleg Sant Pedr. Cafodd ei ffurfio fel coleg dynion, ond ers 1979 mae wedi bodoli'n cydaddysgiadol.[2]
Yn 2019 roedd gan y coleg waddolion cyllidol o £49.6 miliwn.[3]