Coleg Unedig y Byd Li Po Chun yn Hong Cong
Mudiad addysg rhyngwladol sy'n cynnwys 14 o ysgolion a cholegau ar draws y byd yw Colegau Unedig y Byd (Saesneg : United World Colleges , UWC; Sbaeneg : Colegios del Mundo Unido ). Mae aelodau'r mudiad yn dysgu Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol .
Dyma'r 14 coleg sy'n aelodau'r UWC:
Coleg yr Iwerydd (ger Llanilltud Fawr , Bro Morgannwg , Cymru ), agorwyd ym 1962
Coleg Unedig y Byd De Ddwyrain Asia (Singapôr ), 1971
Coleg Lester B. Pearson (Victoria, British Columbia , Canada ), 1974
Waterford Kamhlaba (Mbabane , Gwlad Swasi ) – 1963, ymunodd â'r UWC ym 1981
Coleg Unedig y Byd Armand Hammer, Gorllewin yr Unol Daleithiau (Montezuma, New Mexico , UDA ), 1982
Coleg Unedig y Byd yr Adriatig (Duino , yr Eidal ), 1982
Coleg Unedig y Byd Li Po Chun (Hong Cong ), 1992
Coleg Unedig y Byd Nordig y Groes Goch (Flekke , Norwy ), 1995
Coleg Unedig y Byd Mahindra, India (Khubavali , India ), 1997
Coleg Unedig y Byd Costa Rica (Santa Ana , Costa Rica ), 2000, ymunodd â'r UWC yn 2006
Coleg Unedig y Byd Mostar (Mostar , Bosnia-Hertsegofina ), 2006
Coleg Unedig y Byd Maastricht (Maastricht , yr Iseldiroedd ), 1984, ymunodd â'r UWC yn 2009
Coleg Unedig y Byd Robert Bosch (Freiburg im Breisgau , yr Almaen ), 2014
Coleg Unedig y Byd Dilijan (Dilijan , Armenia ), 2014
Agorwyd Coleg Amaeth Simón Bolívar (Ciudad Bolivia , Feneswela ) ym 1986, ac ymunodd â'r UWC ym 1987, ond caeodd yn 2012.
Sefydlwyd y mudiad ar sail syniadau'r addysgwr Kurt Hahn . Noor, brenhines Gwlad Iorddonen yw llywydd presennol y mudiad.