Collwyn ap Tangno | |
---|---|
Man preswyl | Harlech ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | Arglwydd ![]() |
Tad | Tangno ap Cadfan ![]() |
Plant | Merwydd 'Goch' ap Gollwyn, Einion ap Collwyn, Afangerdd ferch Gollwyn ap Tangno, Eginir ap Gollwyn ap Tangno ![]() |
Uchelwr Cymreig oedd Collwyn ap Tangno neu Gollwyn ap Tangno (bl. 11g) a fu'n Arglwydd Eifionydd, Cantref Dunoding (Ardudwy), a rhan o Lŷn.[1] Efe oedd sefydlydd y pumed o Bymtheg Llwyth Gwynedd.
Yn ôl traddodiad, dywed iddo ddisgyn, drwy Cunedda, o'r Brenin Urien Rheged a Coel Hen. Credir iddo fyw yn Nhŵr Bronwen, Harlech, a rhoddwyd yr enw Caer Collwyn ar yr amddiffynfa honno.[2] Gyda'i wraig gyntaf, Modlan Benllydan, cafodd bum plentyn (Merwydd Goch, Ebnowen, Ednyfed, Cadifor, Eginir), ac un mab (Einion) gyda'i ail wraig Rhianwen ferch Ednyfed.