Mae comed fawr yn gomed sy'n dod yn hynod o ddisglair. Nid oes diffiniad swyddogol; yn aml mae'r term ynghlwm wrth gomedau sydd, yn debyg i Gomed Halley, yn ddigon disglair i bobol sylwi arnynt heb chwilio amdanyn nhw ac maent felly yn dod yn adnabyddus y tu allan i'r gymuned seryddol. Mae comedau fawr yn brin; ar gyfartaledd, dim ond un mewn degawd fydd yn ymddangos. Er bod comedau'n cael eu henwi'n swyddogol ar ôl eu darganfyddwyr, cyfeirir weithiau at gomedau fawr wrth y flwyddyn bu iddynt ymddangos yn fawr, gan ddefnyddio'r fformiwleiddiad "Comed Fawr ...", gyda'r flwyddyn.