Comedi stand-yp

George Carlin yn perfformio comedi ar ei sefyll.

Ffurf o gomedi yw comedi stand-yp, comedi ar ei sefyll[1] neu gomedi ar ei draed[1] lle mae digrifwr yn perfformio o flaen cynulleidfa yn fyw, gan eu hannerch yn uniongyrchol.[2] Weithiau caiff perfformiadau eu ffilmio er mwyn eu rhyddhau ar DVD, y rhyngrwyd, neu deledu, neu eu recordio a'u rhyddhau ar albwm. Gelwir y perfformiwr yn ddigrifwr(aig) ar ei sefyll, yn ddigrifwr(aig) ar ei draed, neu'n stand-up (o'r Saesneg: stand-up comedian).

  1. 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1357 [stand-up comedian].
  2. (Saesneg) stand-up comedy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne