Enghraifft o: | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Math | left communism |
Ffurf ar gomiwnyddiaeth a ddatblygodd yn y 1920au yw comiwnyddiaeth y cyngor. Dylanwadwyd ar y mudiad gan weithgarwch cynghorau gweithwyr yn ystod y chwyldroadau a gwrthryfeloedd ar draws Ewrop ym 1917–23. Yn groes i daliadau Bolsieficaidd Vladimir Lenin, prif arweinydd Chwyldro Rwsia (1917), mae comiwnyddiaeth y cyngor yn gwrthod strategaeth y blaid wrth arwain y chwyldro sosialaidd. Yn hytrach, mae'n arddel cyfundrefn economaidd a chymdeithasol ar sail rhwydwaith o gynghorau diwydiannol.[1]
Mae syniadaeth comiwnyddiaeth y cyngor yn tynnu ar Farcsiaeth yn bennaf, gyda dylanwadau anarchaidd cryf. Prif ddamcaniaethwr y mudiad oedd y seryddwr Iseldiraidd Anton Pannekoek.