Conffiwsiws | |
---|---|
Ganwyd | 孔丘 c. 551 CC Qufu |
Bu farw | Afon Si |
Dinasyddiaeth | Lu |
Galwedigaeth | athronydd, athro, llenor |
Adnabyddus am | Analects |
Cartre'r teulu | Qufu |
Mudiad | Conffiwsiaeth |
Tad | Shu-liang He |
Mam | Yan Zhengzai |
Priod | Qiguan Shi |
Plant | Kong Li |
Athronydd o Tsieina a sylfaenydd Conffiwsiaeth oedd Confucius (孔夫子, Kǒng Fūzǐ, 551 CC - 479 CC). Cafodd ei ddysgeidiaeth ddylanwad mawr yn Tsieina, Corea, Japan a Fietnam.
Yn ôl traddodiad, ganed ef yn ninas Qufu, yn Nheyrnas Lu, yn awr yn rhan o Dalaith Shandong. Dywedir iddo ddod yn Weinidog dros Gyfiawnder yn nheyrnas Lu. Wedi iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo, bu'n teithio o gwmpas teyrnasoedd bychain gogledd-ddwyrain a chanolbarth Tsieina, yn egluro ei syniadau ynghylch llywodraethu.
Pwysleisia ei athroniaeth foesoldeb, perthynas gymdeithasol gywir, cyfiawnder a gonestrwydd, mewn bywyd personol ac mewn llywodraeth. Yn ystod cyfnod Brenhinllin Han yn Tsieina, daeth ei ddysgeidiaeth yn athroniaeth swyddogol y wladwriaeth. Cyflwynwyd ei ddysgeidiaeth i Ewrop gan y Iesuwr Matteo Ricci, y cyntaf i Ladineiddio ei enw fel "Confucius."
Ceir ei ddysgeidiaeth yn yr Analectau (論語), casgliad o ddarnau byrion a cagglwyd at ei gilydd flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth. Yn ôl traddodiad, ef oedd awdur y Pum Clasur, ond nid yw haneswyr modern yn credu fod unrhyw ddogfen a ysgrifennweyd ganddo ef ei hun wedi goroesi.
Enwir Sefydliad Confucius er hyrwyddo iaith, diwylliant a gwerthodd Tsieina wedi'r meddyliwr. Sefydlwyd yr institiwt yn 2004 ac mae ganddi ganolafannau ar draws y byd.