Enghraifft o: | Etholaeth y Senedd Cymru |
---|---|
Daeth i ben | 2007 |
Dechrau/Sefydlu | 1999 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Roedd Conwy yn etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngogledd Cymru rhwng 1999 a 2007. Roedd hefyd yn rhan o etholaeth rhanbarthol Gogledd Cymru i'r Cynulliad. Newidiwyd y ffiniau erbyn etholiad mis Mai 2007 pan aeth Bangor yn rhan o etholaeth Arfon ac ategwyd Nan Conwy i'r etholaeth gan greu etholaeth newydd Aberconwy.
Denise Idris-Jones (Llafur) oedd Aelod Cynulliad Conwy hyd 2007, ar ôl cipio'r sedd oddi ar Gareth Jones (Plaid Cymru).