Coolio | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Coolio ![]() |
Ganwyd | Artis Leon Ivey Jr. ![]() 1 Awst 1963 ![]() Monessen ![]() |
Bu farw | 28 Medi 2022 ![]() o fentanyl toxicity ![]() Los Angeles ![]() |
Label recordio | Tommy Boy Records, Warner Bros. Records, Allied Artists Music Group ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, actor, pen-cogydd ![]() |
Adnabyddus am | Gangsta's Paradise ![]() |
Arddull | West Coast hip-hop, gangsta rap, G-funk ![]() |
Gwobr/au | Grammy Award for Best Rap Solo Performance ![]() |
Roedd Artis Leon Ivey Jr. (1 Awst 1963 – 28 Medi 2022), a elwir yn broffesiynol fel Coolio, yn rapiwr, cynhyrchydd recordiau, ac actor o'r Unol Daleithiau. Roedd yn fwyaf adnabyddus am "Gangsta's Paradise" a enillodd Wobr Grammy ym 1995.[1]
Cafodd Coolio ei eni yn Monessen, Pennsylvania. Symudodd yn ddiweddarach i Compton, California.[2][3][4] Astudiodd yng Ngholeg Cymunedol Compton, ac wedyn bu’n gweithio mewn swyddi fel diffodd tân gwirfoddol a diogelwch mewn maes awyren.[2][5]
Recordiodd Coolio ei sengl gyntaf, o'r enw "Whatcha Gonna Do?" ym 1987. Priododd Josefa Salinas yn 1996, ac ysgarodd y cwpl yn 2000.[6] Bu farw mewn tŷ ffrind, yn 59 oed. Y gred oedd ei fod wedi dioddef trawiad ar y galon.