Cored

Erthygl ar rwystr hydrolig yw hon; ceir hefyd erthygl am gorad bysgod yma.
Cored ar yr afon Humber, Тоrоntо, Canada
Fideo treigl-amser o osod cored yng ngwlyptiroedd Cil-y-coed a Gwynllŵg, Gwent gan Gyfoeth Naturiol Cymru

Mae cored yn rhan o strwythur hydrolig sy'n atal nant neu afon am gyfnod, a lle mae dŵr yn llifo o un lefel i'r llall. Ceir math arbennig o gored i ddal pysgod, cyn y cyfnod modern: cored bysgod.

Disgrifir 'cored' yng Ngheiriadur Prifysgol Cymru fel "Argae i ddal pysgod, sef pyst wedi eu gyrru i wely afon neu yn y môr a gwiail wedi eu plethu rhyngddynt; argae i gronni dŵr; cryw, cawell pysgod"[1] Yn wahanol i gronfa ddŵr dydy'r cored ddim am atal y dŵr rhag llifo'n gyfangwbl i greu llyn artiffial parhaol, ond yn hytrach ei arafu neu ei atal am gyfnod. Arferent ddal pysgod gan fanteisio ar wahaniaeth uchter y môr, rhwng y llanw a'r trai.

  1.  cored. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne