![]() Ynys Gored Goch, gyda mur y gorad yn amlwg | |
Math | cored ![]() |
---|---|
![]() |
Rhwystr a osodir ger yr arfordir, mewn aber neu ar draws afon, i reoli llif y dŵr yw cored neu gorad. Amrywiad arni yw'r cored bysgod, gyda'r nod o ddal pysgod. Arferid codi a defnyddio coredau i ddal pysgod yn agos i'r lan, wrth i'r llanw gilio, pysgod fel eogiaid wrth iddynt geisio nofio i fyny'r afon i fridio i fyny'r afon, neu lysywod wrth iddynt fudo i lawr yr afon. Erbyn hyn, peidiodd yr arfer o ddefnyddio coredau yng Nghymru, ond mae'n parhau ledled y byd. Adeiladwyd coredau'n draddodiadol o bren neu gerrig, a cheir enghreifftiau o'r ddau fath yma yn y Fenai. Mae’n debyg bod y defnydd o goredau pysgota fel maglau pysgod yn dyddio’n ôl cyn ymddangosiad bodau dynol modern.
Fe'i cofnodir yn gyntaf yn y Gymraeg yn y 12g yn Llyfr Llandaf.[1]
Ar hyt Guy hahafrenn can y choretou haidiscynua yloggou betaper muric.
Proto-Geltaidd | *koret = palis, pared |
---|---|
Hen Wyddeleg (Goídelc) | cora = cored |
Gwyddeleg Canol (Gaoidhealg) | cora = wal garreg, cored |
Gwyddeleg (Gaeilge) | cora = cored, rhyd carreg lle croesir afon, penrhyn
cora éisc = cored bysgod cloch chora = cerrig camu |
Gaeleg yr Alban (Gàidhlig) | caradh, cairidh = cored, twmpath mewn dŵr (llyn fel arfer)
cairidh-iasgaich = cored bysgod |
Cymraeg Canol | kored, cored, coret = argae, cored, cawell pysgod |
Cymraeg | cored |
Hen Lydaweg | kored / gored = cored bysgod |
Llydaweg
(Brezhoneg) |
kored = cored bysgod |