Enghraifft o: | ffurf gyfreithiol ![]() |
---|---|
Math | sefydliad anllywodraethol lled-ymreolaethol ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Yn y Deyrnas Unedig, sefydliad yn y sector cyhoeddus sydd â rôl ym mhroses llywodraeth genedlaethol ond nad yw'n rhan o adran o'r llywodraeth yw corff cyhoeddus anadrannol (Saesneg: non-departmental public body, NDPB).[1] Mae'r cyrff cyhoeddus anadrannol yn gweithio'n annibynnol ar weinidogion y llywodraeth i raddau helaeth er eu bod yn atebol i'r cyhoedd drwy Senedd y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae gweinidogion yn gyfrifol am annibyniaeth, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyrff cyhoeddus anadrannol yn eu portffolio.
Mae'r term yn cynnwys y pedwar math o gorff (byrddau gweithredol, cynghori, tribiwnlysoedd a monitro annibynnol) ond nid yw'n cynnwys corfforaethau cyhoeddus a darlledwyr cyhoeddus (BBC, Channel 4, ac S4C).[2][3]