Enghraifft o: | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gi corlanu, neu gi sodli, llwynogaidd yr olwg yw'r corgi sy'n frodorol o Gymru.[1] Mae'r enw'n 'corgi' yn air cyfansawdd, sy'n cynnwys dwy elfen: 'cor' am bach, fel yn 'corrach', a 'ci', ac un o'r ychydig eiriau Cymraeg sydd wedi cael eu mabwysiadu gan y Saesneg. Ceir dau frid neu fath o gorgwn Cymreig, sef corgi Sir Benfro (y mwyaf poblogaidd) a chorgi Sir Aberteifi (a elwir hefyd yn Gorgi Dyfed ac yn Gorgi Ceredigion. Ci byrgoes ydyw gyda chot felen gyda gwyn dan yr ên yn aml. Ci gyrru gwartheg oedd y corgi - yn ddigon bach a sydyn i sodli'r gwartheg (sef brathu'r sodlau) - er mwyn gyrru'r gwartheg, merlod a chobiau neu ddefaid gan fwyaf. Maent yn llwyddiannus iawn mewn sioeau ond cŵn anwes yw corgwn gan mwyaf heddiw.
Yn ôl traddodiad, roedd yn well gan y Tylwyth Teg farchogaeth y corgi nag unrhyw anifail arall.[2] Cyfeiriodd y nofel Saesneg Korgi (Top Shelf Productions) at y cysylltiad hwn gan fodau o deulu'r Tylwyth Teg, o'r enw "Mollies", yn cyd-fyw gyda'u cyfeillion 'Korgi' a edrychai'n ddigon tebyg i Gorgwn Sir Benfro.[3]
Weithiau defnyddiwyd y gair 'corgi' yn ffigyrol am berson neu blentyn sarrug ac afrywiog (yng Ngogledd a rhannau o Dde Cymru) a chyfrwys (yng Ngheredigion).
Ceir y cyfeiriad cyntaf at y corgi yn Llawysgrifau Hengwrt a sgwennwyd yn y 14g (HMSS ii. 296): ef awelei lawnslot drwy y hun. bot corrgi yn y gyfarth. Canodd y bardd Guto'r Glyn yn y 15g hefyd (GGl 6): Na helied yn hoywalawnt / gorgwn mân garw gwinau Mawnt.[4]
|accessdate=
(help)