Corona (diod ysgafn)

Corona
Math
busnes
Sefydlwyd1884
Daeth i ben1990s
Pencadlysy Porth
Ffatri Corona, Porth y Rhondda

Roedd Corona yn gwmni cynnyrch diodydd meddal Cymreig a sefydlwyd yn wreiddiol ym Mhorth y Rhondda gan gwmni Bryniau Cymru Thomas & Evans. Cafodd y cwmni ei gychwyn ym 1884 gan ddau groser, William Thomas a William Evans, pan welsant gyfle i farchnata diodydd meddal mewn ymateb i ddylanwad cynyddol y mudiad dirwest yng Nghymru[1]. O'r ffatri gyntaf yn y Porth, ehangodd y cwmni yn y pen draw i 87 safle ledled Ynysoedd Prydain. Cafodd brand Corona ei werthu i grŵp Beecham yn y 1950au ac wedyn i Gwmni Britvic cyn i'r brand ddod i ben ar ddiwedd y 1990au.[2]

  1. Western Morning News 28 Ebrill 1934 tud 8 Fruit Drinks
  2. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 171. ISBN 978-0-7083-1953-6.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne