Republika e Kosovës (Albaneg) | |
![]() | |
Math | gwladwriaeth unedol, gwlad dirgaeedig, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad ![]() |
---|---|
Prifddinas | Prishtina ![]() |
Poblogaeth | 1,586,659 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Ewrop ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Albin Kurti ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Albaneg, Serbeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia ![]() |
Lleoliad | Balcanau ![]() |
Arwynebedd | 10,909.02992 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Albania, Gogledd Macedonia, Montenegro, Serbia ![]() |
Cyfesurynnau | 42.55°N 20.83°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Cosofo ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gwladwriaeth Cosofo ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cosofo ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Vjosa Osmani ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cosofo ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Albin Kurti ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $9,412 million, $9,429 million ![]() |
Arian | Ewro ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.87 ![]() |
Gwlad yn y Balcanau yn ne-ddwyrain Ewrop yw Cosofo[1][2] (Albaneg Kosovë/Kosova, Serbeg Косово и Метохија / Kosovo i Metohija). Yn y cyfrifiad diwethaf roedd gan Cosofo boblogaeth o 1,586,659 (2024)[3], sef tua hanner poblogaeth Cymru.
Hyd 17 Chwefror 2008 bu'n dalaith yn ne Serbia ac, fel Serbia ei hun, roedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia. Ar ôl gwrthdaro chwerw rhwng Serbiaid ac Albaniaid yn y 1990au a achoswyd gan densiynau ethnig, mae'r dalaith yn cael ei gweinyddu gan y Cenhedloedd Unedig drwy UNMIK (United Nations Interim Administration Mission in Kosovo) ers diwedd Rhyfel Cosofo (1999). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd llywodraeth Albanaidd y dalaith annibyniaeth, ond mae Serbiaid lleol (tua 10% o'r boblogaeth) yn gwrthod hynny.[4]