Cotwm

Cotwm
Mathffibr planhigyn Edit this on Wikidata
CynnyrchGossypium barbadense, Gossypium hirsutum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deunydd amddiffynnol sy'n tyfu o gwmpas hadau y planhigyn cotwm (Gossypium) yw Cotwm. Fe'i defnyddir i wneud edafedd a brethyn. Daw'r gair "cotwm" o'r Arabeg (al) qutn قُطْن. Hadlestr ydyw, a gwnaed ei ffibrau allan o Seliwlos yn bennaf. Mae Diwrnod Cotwm y Byd yn cael ei ddathlu ar 7 Hydref; cychwynnwyd y diwrnod hwn yn 2019.[1]

Cotwm yw’r ffibr naturiol mwyaf cyffredin a ddefnyddir i wneud ffabrig ar draws y byd. Cynhyrchwyr cotwm mwyaf y byd yn 2007 oedd (1) Tsieina, (2) India, (3) yr Unol Daleithiau, (4) Pacistan, (5) Brasil, (6) Wsbecistan, (7) Twrci, (8) Gwlad Groeg, (9) Tyrcmenistan, a (10) Syria. Yr allforwyr cotwm mwyaf oedd (1) yr Unol Daleithiau, (2) Wsbecistan, (3) India, (4) Brasil, a (5) Bwrcina Ffaso. Mae'r amrywiaeth fwyaf o rywogaethau cotwm gwyllt i'w cael ym Mecsico, ac yna Awstralia ac Affrica.[2]

Cotwm yn barod i'w gynaeafu

Cynhyrchir y rhan fwyaf o gotwm India yn Maharashtra (26.63 %), Gujarat (17.96 %) ac Andhra Pradesh (13.75 %). Texas sy'n cynhyrchu'r gyfrahn uchaf o gotwm yr Unol Daleithiau.

Mae'r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer cynhyrch global tua 25 miliwn tunnell neu 110 miliwn o fyrnau bob blwyddyn, sef 2.5% o dir âr y byd. India yw cynhyrchydd cotwm mwya'r byd, ond yr Unol Daleithiau fu'r allforiwr mwyaf am flynyddoedd.[3]

  1. Sefydliad Masnach y Byd, WTO a Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Cotwm, adalwyd 8 Hydref 2020
  2. Bioleg Gossypium hirsutum L. a Gossypium barbadense L. (cotwm). ogtr.gov.au
  3. "Natural fibres: Cotton" Archifwyd 3 Medi 2011 yn y Peiriant Wayback, Blwyddyn Rhyngwladol Ffibrau Naturiol

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne