Math | ardal o Lundain, ardal siopa, atyniad twristaidd |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Sgwâr Leicester, Charing Cross |
Cyfesurynnau | 51.5125°N 0.1225°W |
Cod OS | TQ303809 |
Ardal yn Llundain yw Covent Garden. Lleolir ym mwrdeistrefi Dinas Westminster a Camden ar ochr ddwyreiniol y West End rhwng St. Martin's Lane a Drury Lane. Daeth yn enwog yn wreiddiol am y farchnad ffrwythau a llysiau yng nghanol y sgwâr ond mae erbyn heddiw yn enwog fel atyniad poblogaidd i dwristiaid ac i siopwyr, ynghyd â bod yn gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol. Caiff yr ardal ei rhannu gan brif dramwyfa Long Acre sy'n rhedeg o St Martin's Lane yn y gorllewin i Drury Lane tua'r dwyrain. I'r gogledd o Long Acre mae ardaloedd siopau a thai bwyta annibynnol wedi eu canoli o gwmpas Neal's Yard a Seven Dials. Yn y de lleolir y sgwâr ganolog sy'n enwog am ei pherfformwyr stryd ac adeiladau mawreddog y Theatre Royal ac Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain.