Craig Roberts | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Ionawr 1991 ![]() Maesycwmer ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Actor o Gymru yw Craig Roberts (ganed 25 Ionawr 1991). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan 'Oliver Tate' yn y ddrama gomedi Submarine, a 'Rio' yng nghyfres deledu plant The Story of Tracy Beaker.
Ganed Roberts yn Maesycwmer, Caerffili.
Ymddangosodd fel y ffanatic sugnwyr gwaed, Robin Branagh, yn nwy dymor o'r gyfres Young Dracula. Gweithiodd gyda'r Touring Theatre Company yn 2008, gan chwarae rhan 'Ryan' mewn taith ledled Prydain Fawr o 'Full Time'. Mae hefyd wedi ymddangos yn Care, a Casualty. Chwaraeodd ran 'Drax', ym mhantomeim 'Snow White' yn Worthing ym mis Ionawr 2009. Chwaraeodd ran 'Adam' yng nghyfres deledu BBC Three Being Human, a'r gyfres gysylltiedig Becoming Human.[1]
Serenodd Roberts yn ffilm 2010 Submarine[2] sydd hefyd yn serennu Paddy Considine a Yasmin Paige.[3][4] Cafodd Roberts ei enwi'n Berfformiwr Prydeinig y Flwyddyn yng Ngwobrau London Film Critics’ Circle ym mis Ionawr 2012.[5] Ef hefyd oedd y llais ar hysbyseb ffôn symudol HTC One yn 2012, ble mae ffotograffydd yn neidio allan o awyren ar gyfer saethiad ffasiwn.