Craith (cyfres deledu)

Craith
Adnabuwyd hefyd fel Hidden
Genre Drama
Serennu Sian Reese-Williams
Rhodri Meilir
Cyfansoddwr/wyr John Hardy Music
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Saesneg
Nifer cyfresi 3
Nifer penodau 20
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Hannah Thomas
Lleoliad(au) Eryri
Sinematograffeg Stuart Biddlecome
Amser rhedeg 50 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Severn Screen
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
BBC iPlayer
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 7 Ionawr 2018 (2018-01-07) – presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Rhaglen ddrama drosedd Gymraeg yw Craith wedi ei leoli yn ardal Eryri.

Crëwyd y gyfres gan Mark Andrew ac Ed Talfan. Awduron y gyfres yw Caryl Lewis, Jeff Murphy a James Rourke. Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Severn Screen ar gyfer S4C a BBC Cymru a bydd yn cael ei werthu'n rhyngwladol gan All3Media International. Darlledir y fersiwn Gymraeg Craith ar S4C gyda fersiwn dwyieithog, Hidden yn cael ei ddangos yn ddiweddarach ar BBC One Wales ac ar BBC Four ar draws y Deyrnas Unedig.[1] Enillodd y gyfres wobr BAFTA Cymru 2018 am Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen.[2] Darlledir y rhaglen ar S4C nos Sul rhwng 21:00 a 22:00, mewn slot a ddaeth yn arferol ar gyfer dangos cyfresi drama newydd.

O Fangor, dros ddyfroedd Afon Menai, i hen chwareli Llanberis, dyma dirwedd sy’n adnabyddus i DI Cadi John. Doedd hi erioed wedi disgwyl dychwelyd yma. Wedi ei thynnu'n ôl am resymau personol - iechyd difrifol ei thad annwyl - mae Cadi yn darganfod ei hun yn plismona pentrefi a phobl ei ieuenctid. Mae'n swydd y mae hi'n ei mwynhau. Fodd bynnag, pan ddatgelir corff dynes leol mewn afon anghysbell, mae byd Cadi - a byd y rhai o'i chwmpas - yn newid am byth.

Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn y gogledd orllewin, o amgylch dinas Bangor a lleoliadau ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

  1.  Tair drama i danio'r dychymyg - yn dechrau gyda Bang.... S4C (10 Awst 2017). Adalwyd ar 21 Awst 2017.
  2. Gwobrau BAFTA Cymru 2018 – yr enillwyr , Golwg360, 15 Hydref 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne