Cranc Amrediad amseryddol: | |
---|---|
Cranc nofiol llwyd Liocarcinus vernalis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Adrannau ac isadrannau[1] | |
Cramenogion dectroed yn yr is-urdd Brachyura yw crancod, crangod neu crainc. Ceir crancod y môr, crancod dŵr croyw, a chrancod tir. Fel rheol mae ganddynt allsgerbwd trwchus a phâr o grafangau neu fodiau.
Mae ambell anifail yn dwyn yr enw cranc, er nad ydynt yn wir grancod, gan gynnwys marchgranc (teulu Lithodidae), cranc meddal, crancod meudwyol, cranc y cregyn neu granc ymfudol (uwchdeulu Paguroidea), cranc porslen (teulu Porcellanidae), a'r pryfed cranclau (Pthirus pubis).