Math | crater, tirffurf folcanig |
---|---|
Rhan o | llosgfynydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pant crwn ar frig llosgfynydd yw crater folcanig.[1] Fel arfer mae ganddo siâp powlen sy'n cynnwys un neu fwy o agorfeydd. Yn ystod ffrwydradau folcanig, mae nwyon a magma tawdd yn codi o siambr magma tanddaearol, trwy sianeli yn y creigiau, nes iddynt gyrraedd yr agorfa yn y crater, lle mae'r nwyon yn dianc i'r atmosffer ac mae'r magma yn ffrwydro fel lafa. Gall crater folcanig ymestyn dros ardal eang, a gall o ddyfnder mawr.
Ar ôl rhai ffrwydradau, gall siambr magma llosgfynydd wagio digon fel bod y ddaear uwchben yn dymchwel, gan ffurfio math mwy o bant, sef callor (caldera). Efallai y bydd y pant yn y pen draw yn llenwi â dŵr i ffurfio llyn crater.