Crefft ysgrifennu

Enghraifft o lawysgrifen Spenceraidd o 1884.

Y dechneg o ysgrifennu â llaw, gan ddefnyddio offeryn ysgrifennu, yw crefft ysgrifennu. Gelwir ysgrifennu'r unigolyn yn llawysgrifen. Mae llawysgrifen pob person yn unigryw, ond gall fod o arddull ffurfiol, megis teip i'r llaw. Gelwir celfyddyd ysgrifennu yn geinlythrennu neu'n galigraffeg.

Cychwynnodd arddulliau ysgrifennu yn Ewrop gyda'r Hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid. Mae'n bosib taw yn y 4g CC datblygodd ysgrifen redeg. Tua 300 CC dechreuodd pobl yr henfyd dorri priflythrennau Lladin a Groeg â gaing. Defnyddiwyd wnsial mewn llawysgrifau Lladin a Groeg o'r 4g ymlaen, a datblygodd yr ysgrifen fân-lythrennog yng Ngwlad Groeg yn yr 8g. Datblygodd yr Eidalwyr ysgrifen italaidd yn ystod y Dadeni.[1]

Ar draws Asia, yn enwedig gwledydd y Dwyrain Pell a'r Byd Arabaidd, mae perthynas glos rhwng dulliau llawysgrifen pob dydd a cheinlythrennu. Hyd heddiw addysgir y grefft hon mewn ysgolion ar draws Asia.

Yn y cyfnod modern diweddar, lluniwyd arddulliau ffurfiol o lawysgrifen ar gyfer ieithoedd y Byd Gorllewinol. Ar y cyfan defnyddiwyd llawysgrifen redeg fel copor-plât yn y Saesneg, a llawysgrifen Gothig fel Fraktur yn yr Almaeneg. Datblygodd Platt Rogers Spencer y llawysgrifen Spenceraidd yn y 19eg ganrif ar gyfer dogfennau busnes yn yr Unol Daleithiau, a chafodd ei dysgu i genedlaethau o ddisgyblion Americanaidd. Bellach, ystyrir y fath arddulliau yn hen ffasiwn mewn nifer o wledydd.

  1. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 321.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne