Mae sefyllfa crefydd yn Libanus yn un o'r rhai mwyaf cymysg yn y Dwyrain Canol. Prif grefydd y wlad yw Islam, gyda rhyw 27% yn Fwslemiaid Shia a rhyw 27% yn Fwslemiaid Sunni (ac felly 54% o'r boblogaeth gyfan yn Fwslemiaid). Cristnogion yw 40.5% o'r boblogaeth: 21% yn Faroniaid, 8% yn Uniongred Roegaidd, 5% yn Gatholig Roegaidd, a 6.5% o enwadau Cristnogol eraill. Mae'r Drwsiaid yn cyfri am 5.6% o'r boblogaeth.[1] Roedd arfer bod nifer o Iddewon yn byw yn y wlad, ond erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo i Israel. Serch y ddemograffeg grefyddol gymysg, fel gwledydd Arabaidd eraill mae nifer o Fwslemiaid o blaid ffwndamentaliaeth Islamaidd (mae'r mudiad mawr Hizballah yn wrth-Seionaidd ac eisiau troi Libanus yn wladwriaeth Islamaidd tebyg i Iran).