Creirfa

Creirfa y Santes Melangell yn Eglwys Pennant Melangell, Powys.

Lle i ddiogelu a thrysori creiriau yw creirfa. Defnyddir y term mewn cyd-destun crefyddol fel arfer, ond gall gyfeirio hefyd at unrhyw leoliad lle cedwir pethau a drysorir er cof am rywun.

Mewn arferion Cristogol, roedd yr enw Lladin scrinium yn cyfeirio at flwch neu gist i gadw papurau a llyfrau'n wreiddiol; datblygodd yr ystyr "creirfa" yn rhywbeth sy'n cynnwys crair, ac wedyn daeth i olygu'r man lle cedwir y creiriau. Fel arfer mae creirfa yn fan a ystyrir yn sanctaidd, fel arfer mewn eglwys neu adeilad crefyddol arall.[1]

Daeth creirfäoedd yn gyrchfannau pererindod, yn enwedig yn yr Oesoedd Canol. Yng Nghymru Creirfa'r Santes Melangell yn Eglwys Pennant Melangell, Powys o bosibl yw'r enghraifft gorau. Mae Ogof y Patriarchiaid ym Mhalesteina yn enghraifft arall.

Ceir creirfäoedd mewn crefyddau eraill hefyd: ceir sawl creirfa Fwdhaidd, er enghraifft Creirfa Dant y Bwda yn Kandy, Sri Lanca. Cedwir y creiriau Bwdhaidd mewn stupas fel rheol.

Yn Islam, yn enwedig Islam Shia, ceir nifer o greirfäoedd a gysylltir â califfiaid neu seintiau.

  1. J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Thames and Hudson, 1983), tud. 226.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne