Cretasaidd

Cyfnod Cretasaidd
145.5–65.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 30 Cyfaint %[1]
(150 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 1700 rhan / miliwn[2]
(6 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 18 °C[3]
(4 °C uwch na'r lefel heddiw)
Prif ddigwyddiadau'r cyfnod
Llinell amser bras o brif ddigwyddiadau'r cyfnod Cretasaidd.
Graddfa: miliynau o flynyddoedd yn ôl.

Cyfnod mewn daeareg yw'r Cretasaidd. Cyfeiria at y ddaear yn ystod y cyfnod rhwng 145±4 a 66 miliwn o flynyddoedd (Ma) yn ôl (CP). Mae'n dilyn y cyfnod Jwrasig yn y gorgyfnod Cainosöig.

Nodir diwedd y cyfnod Cretasaidd gan un o ddifodiannau mawr bywyd, gan gynnwys diflaniad y dinosoriaid. Cyflwynwyd y cyfnod gan Jean d'Omalius d'Halloy, daearegwr o Wlad Belg, yn 1822[4]. Bellach arolygir cyfnodau daeareg gan Gomisiwn Rhyngwladol Stratigraffeg[5], is-bwyllgor Undeb Rhyngwladol Gwyddorau Daeareg[6].

Golygfa ddychmygol o'r cyfnod Cretasaidd. (Sefydliad Smithsonian, 1977)
Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol'.
  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png
  4. (Ffrangeg) d’Halloy, d’O., J.-J. (1822). Observations sur un essai de carte géologique de la France, des Pays-Bas, et des contrées voisines. Annales des Mines ... 7: 353–376. O tudalen 373: "La troisième, qui correspond à ce qu'on a déja appelé formation de la craie, sera désigné par le nom de terrain crétacé."
  5. Comisiwn Rhyngwladol Stratigraffeg (ICS) http://www.stratigraphy.org/
  6. Undeb Rhyngwladol Gwyddorau Daeareg (IUGS) http://www.iugs.org/

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne