![]() | |
Enghraifft o: | religious war ![]() |
---|---|
Dyddiad | c. 1212 ![]() |
Rhan o | Y Croesgadau ![]() |
![]() |
Chwedl o'r Oesoedd Canol yw Croesgad y Plant sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn Ewrop ym 1212. Yn ôl y stori draddodiadol, cafodd bachgen o Ffrainc neu'r Almaen weledigaethau crefyddol ac arweiniodd croesgad o blant i'r Eidal er mwyn croesi Môr y Canoldir a throi Mwslimiaid y Tir Sanctaidd yn Gristnogion. Daeth y Groesgad i ben pan gwerthwyd y plant yn gaethweision.
Mae hanesyddion bellach yn credu taw tlodion crwydrol oedd aelodau'r Groesgad, nid plant yn unig, a bod hanes Croesgad y Plant yn gyfuniad o nifer o ddigwyddiadau gwahanol, ac nad oedd pob un ohonynt yn deithiau i'r Tir Sanctaidd.