![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7952°N 4.0857°W ![]() |
Cod OS | SN562127 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Pentref yn Nghwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin yw Cross Hands. Ni ymddengys fod enw Cymraeg iddo.
Saif Cross Hands gerllaw cyffordd y priffyrdd A48 a'r A476, tua 12 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin ac i'r gogledd o Lanelli. Ceir parc busnes ar gyrion y pentref, ynghyd â gwasanaethau ar gyfer teithwyr ar yr A48. Yn ôl un stori, cafodd y pentref ei enw oherwydd mai yma y byddai swyddogion carchar yn cyfarfod i gyfnewid carcharorion rhwng carchardai Caerfyrddin ac Abertawe.
Yn weinyddol, mae Cross Hands yn rhan o ward Llannon, sydd hefyd yn cynnwys pentrefi Tymbl a Llannon.
Gerllaw ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]