Crwban Amrediad amseryddol: Triasig Diweddar – Diweddar, | |
---|---|
Crwban cloriog Fflorida (Terrapene carolina bauri) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Testudines Linnaeus, 1758 [1] |
Is-urddau a theuluoedd | |
Amrywiaeth | |
14 teulu gyda thua 300 rhywogaeth | |
Glas: crwbanod y môr. Du: crwbanod y tir. |
Ymlusgiad yw'r crwban (lluosog: crwbanod) sy'n perthyn i'r urdd a elwir yn Testudines. Ceir cragen gref sydd wedi'i chysylltu i ran uchaf (cefn) ei gorff ac sydd wedi datblygu dros miliynnau o flynyddoedd allan o esgyrn rhan o'i asennau. Pwrpas y gragen yw amddiffyn ei gorff meddal. Mae rhai rhywogaethau'n byw ar dir, megis y teulu crwbanod tir (tortoises), ac mae rhai'n byw mewn dŵr croyw, megis y terapiniaid. Mae môr-grwbanod yn byw mewn dŵr hallt. Anifail gwaed oer yw'r rhan fwyaf ohonynt.
Ceir ffosiliau sy'n mynd yn ôl cymaint â 250 miliwn o flynyddoedd,[2] sy'n gwneud y crwban yn un o'r ymlusgiaid hynaf ar y Ddaear yn hŷn na chrocodeil, nadroedd a madfallod. Mae rhai ohonynt yn brin iawn.
Fel gweddill y grŵp amniote (adar, deinosoriaid, ymlusgiaid a mamaliaid), maen nhw'n anadlu ocsigen o'r aer ac nid ydynt yn dodwy eu wyau mewn dŵr - er bod llawer iawn ohonynt yn byw ger y dŵr neu mewn dŵr. Mae'r crwbanod mwyaf i gyd yn byw mewn dŵr.