Crychguriad y galon yw unrhyw ddiffyg yng nghuriadau'r galon megis: curiadau rhy gyflym, rhy araf neu afreolaidd. Gall gael ei achosi gan angina; gall hefyd fodoli oblegid gorweithio, adrenalin, alcohol, caffein, cocên, amffetaminau a chyffuriau eraill, afiechyd neu banig. Gall hefyd ddigwydd mewn mitral stenosis.
Mae bron pob person yn ei brofi yn achlysurol, ond os digwydd yn rheolaidd gall fod yn arwydd o broblem ehangach, waelodol. Fe all fod yn arwydd o broblemau'n ymwneud â'r galon neu gydag anemia neu ddiffyg ar y thyroid.
Gall y crychguriad ddigwydd am gyfnodau o eiliadau neu hyd yn oed oriau. Os ceir crychguriad ynghyd â symptom arall megis chwysu, llewygu, poenau yn y fron neu benysgafndod yna mae cryn bosibilrwydd fod y broblem waelodol yn ymwneud â'r galon a dylid ymgynghori â'r meddyg.
Fe all y crychguriad ymwneud â phroblemau seicolegol megis panig, ffobia, orbryder (neu straen bywyd; Sa: stress) neu iselder ysbryd.
Gall crychguriad y galon hefyd ddigwydd pan fo claf yn colli gwaed, yn dioddef poen neu pan fo'n derbyn llai o ocsigen nag arfer.