Adeilad caeedig sydd wedi'i greu gan bobl er mwyn i rai rhywogaethau o wenyn mêl o'r is-genws Apis fyw a magu ynddo yw cwch gwenyn. Wrth gynhyrchu mêl, y wenynen fêl orllewinol (Apis mellifera) a'r wenynen fêl ddwyreiniol (Apis cerana) yw'r prif rywogaethau sy'n cael ei cadw mewn cychod gwenyn.[1][2]
Y tu mewn i'r cwch, ceir celloedd hecsagon prismatig sydd wedi'i gwneud o gŵyr gwenyn, sy'n cael ei alw'n ddil mêl. Mae'r gwenyn yn defnyddio'r celloedd i storio mêl a phaill) ac i fagu'r haid (wyau, larfâu, a chwiler).
Mae gan gychod gwenyn nifer o ddibenionː cynhyrchu mêl, peillio cnydau cyfagos, cartrefu'r gwenyn cyflenwi ar gyfer triniaeth apitherapi, a cheisio lliniaru effeithiau anhwylder cwymp nyth. Mae nifer o batentau wedi'u cofrestru ar ddyluniadau ar gyfer cychod gwenyn.
Sefydlwyd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn 1943 ac yn 2018 roedd ganddi 19 o gymdeithasau lleol a thua 1,650 o aelodau yn gysylltiedig â hi.[3]