Math | tref, pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.686845°N 3.44224°W |
Cod OS | ST003996 |
Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Cwmaman. Saif i'r de o dref Aberdâr, ac mae Afon Aman yn llifo trwy'r pentref. Datblygodd fel pentref glofaol, er fod y pyllau glo i gyd wedi cau erbyn hyn.
Yng Nghwmaman y dechreuodd y band Stereophonics, ac mae dau o'r aelodau yn frodorion o'r pentref.