Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,486, 4,556 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,746.13 ha |
Cyfesurynnau | 51.805°N 3.915°W |
Cod SYG | W04000499 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Cwmaman. Saif y gymuned ynghanol Dyffryn Aman, i'r dwyrain o Rydaman. Mae'n cynnwys pentref Glanaman a'r Garnant, a rhan o lethrau gorllewinol y Mynydd Du.
Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yn yr ardal yma, ond caeodd y pwll mwyaf, sef Gelliceidrym, yn 1958, ac erbyn 1985 roedd pob un o'r pyllau glo wedi cau. Roedd hefyd ddiwydiant tunplat yma.
Cynrychiolir Cwmaman yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]