![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,172, 1,144 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 930.22 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7989°N 3.8185°W ![]() |
Cod SYG | W04000611 ![]() |
Cod OS | SN747127 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Cwmllynfell. Saif ar y briffordd A4068 rhwng Brynaman ac Ystalyfera, heb fod ymhell o Afon Twrch. Mae'r ward etholiadol yn cynnwys Blaen-nant, Bryn-Melyn, Celliwarog, Cwmllynfell a Rhiw-fawr.
Agorwyd Glofa Cwmllynfell rywbryd cyn 1825, pan gofnodir i 59 o weithwyr gael eu lladd mewn ffrwydrad yno. Yn 1947 roedd yn cyflogi 360 o lowyr. Caeodd yn 1959. Hyd nes i'r lofa gau, cynhelid cyfarfodydd lleol Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]