Cwpan Hwngari, (Hwngareg Magyar Kupa), yw'r gystadleuaeth gwpan genedlaethol ar gyfer timau clwb yn Hwngari. Trefnir hi gan Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari (yn Magyar, Labdarúgó Szövetség) a sefydlwyd yn 1909-10, gyda'r ffeinal ym mis Medi 1019 rhwng MTK Budapest a Budapesti TC, gydag MTK yn ennill 4-1 yn y gêm ail-chwarae oherwydd mai 1-1 oedd sgôr y gêm gyntaf. Roedd hyn wyth mlynedd wedi i'r Ffederasiwn gynnal Cynghrair pêl-droed y wlad yn 1901.
Yn ogystal â chlybiau proffesiynol Hwngari, bydd nifer o glybiau amatur yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Bydd rhaid i'r clybiau llai hyn ennill rowndiau lleol cyn cyrraedd cymalau cenedlaethol.