Founded | 2017 |
---|---|
Region | Ryngwladol |
Number of teams | 4 |
Current champions | ![]() |
Most successful team(s) | ![]() ![]() (1 teitl yr un) |
Website | China-Cup.com.cn |
![]() |
Mae Cwpan Tsieina neu China Cup International Football Championship (Tsieinëeg: 中国杯国际足球锦标赛) yn dwrnament pêl-droed a drefnir yn Tsieina gan Gymdeithas Bêl-droed Tsieina a'r Wanda Group.[1]
Sefydlwyd y bencampwriaeth yn 2017 ar sail twrnament dileu-sengl rhwng pedwar tîm cenedlaethol. Cynhaliwyd rhan gyntaf y bencampwriaeth yng Nghanolfan Chwaraeon Guangxi yn ninas Nanning sydd tua 2000 km o ddinas Shanghai, rhwng 10 - 15 Ionawr 2017. Roedd 4 tîm yn cystadlu, GP Tsieina, Gwlad yr Iâ, Chile a Croatia. Chile fu'n fuddugol. Cyhoeddwyd y bydd cyfrolau nesaf y twrnament yn cynnwys wyth tîm cenedlaethol yn y dyfodol.[1].
Cymerodd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ran yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 2018. Talwyd £1m i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am gymryd rhan yn y digwyddiad dim ond ar yr amod bod y seren pêl-droed, Gareth Bale yn chwarae.[2]. Y timau eraill i gystadlu oedd tîm cenedlaethol GP Tsieina, Wrwgwái a'r Weriniaeth Tsiec.
Yn ei gêm ar yn Nanning ar 22 Mawrth 2018, curodd Gymru tîm Tsieina 0-6. Collodd Cymru y gêm derfynol ar 26 Mawrth 2018 yn erbyn Wrwgwái o 0-1. Sgoriodd Bale hatric gan guro record Ian Rush o ran sgorio mwyaf o goliau i'w wlad.