Enghraifft o: | edition of the FIFA Women's World Cup ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2019 ![]() |
Dechreuwyd | 7 Mehefin 2019 ![]() |
Daeth i ben | 7 Gorffennaf 2019 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | 2015 FIFA Women's World Cup ![]() |
Olynwyd gan | Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 ![]() |
Lleoliad | Ffrainc, Stade des Alpes, Stade Océane, Parc Olympique Lyonnais, Stade de la Mosson, Allianz Riviera, Parc y Tywysog, Stade Auguste Delaune, Roazhon Park, Stade du Hainaut ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.fifa.com/tournaments/womens/womensworldcup/france2019 ![]() |
![]() |
Cwpan y Byd Menywod FIFA 2019 oedd wythfed rhifyn Cwpan y Byd Merched FIFA, y bencampwriaeth bêl-droed ryngwladol sydd yn digwydd bob pedair blynedd ac yn cael ei herio gan 24 o dimau cenedlaethol menywod. Fe'i cynhaliwyd rhwng 7 Mehefin a 7 Gorffennaf 2019, gyda 52 gêm yn cael eu cynnal mewn naw dinas [1] yn Ffrainc, a gafodd yr hawl i gynnal y digwyddiad ym mis Mawrth 2015.
Aeth yr Unol Daleithiau i'r gystadleuaeth fel pencampwyr amddiffynnol ar ôl ennill rhifyn 2015 yng Nghanada, a llwyddwyd i amddiffyn eu teitl gyda buddugoliaeth 2-0 dros yr Iseldiroedd yn y rownd derfynol. Wrth wneud hynny, fe wnaethant sicrhau eu pedwerydd teitl a daethant yn ail genedl, ar ôl yr Almaen, i llwyddo i gadw'r teitl.
Gwnaeth Chile, Jamaica, yr Alban a De Affrica eu gemau cyntaf yng Nghwpan y Byd i Fenywod, a chymerodd yr Eidal ran yn y digwyddiad am y tro cyntaf ers 1999 ac fe gymerodd yr Ariannin ran am y tro cyntaf ers 2007. Roedd Brasil, yr Almaen, Japan, Nigeria, Norwy, Sweden, a'r Unol Daleithiau wedi cymhwyso ar gyfer eu hwythfed Cwpan y Byd, gan barhau i fod yn gymwys ar gyfer pob Cwpan y Byd a gynhaliwyd hyd yma.