Mae Cwrdistan ( [ˌkurdɪˈstan] (
gwrando); "Mamwlad y Cwrdiaid" neu "Gwlad y Cwrdiaid";[1] hefyd a arferai gael ei alw'n Curdistan;[2][3] enw hynafol: Corduene[4][5][6][7][8][9][10]) neu Cwrdistan Fwyaf yn ardal daearyddol a diwylliannol lle mai Cwrdiaid yw mwyafrif y boblogaeth.[11] Dyma ardal hanesyddol, iaith, a hunaniaeth cenedlaethol Cwrdaidd.[12] Yn fras, mae Cwrdistan yn cwmpasu gogledd-orllewin cadwyn mynyddoedd Zagros a dwyrain cadwyn mynyddoedd Taurus.[13]
Mae defnydd cyfoes o'r term yn cyfeirio at bedair rhan o Gwrdisdtan Fwyaf, sydd yn cynnwys de-ddwyrain Twrci (Gogledd Cwrdistan), gogledd Syria (Rojava neu Gorllewin Cwrdistan), gogledd Irac (De Cwrdistan), a gogledd-orllewin Iran (Dwyrain Cwrdistan).[14][15] Mae rhai cyfundrefnau cenedlaetholaidd Cwrdaidd yn edrych i greu cenedl annibynnol sydd am gynnwys rhai neu'r holl o'r ardaloedd yma gyda mwyafrif Cwrdaidd, tra mae eraill yn ymgyrchu am fwy o hunan-lywodraeth o fewn ffiniau cenedlaethol presennol. [16][17]
Enillodd Cwrdistan Iracaidd ei statws hunan-lywodraeth gyntaf mewn cytundeb gyda llywodraeth Irac yn 1970, ac fe ail-gadarnhawyd ei statws hunan-lywodraethol o fewn gweriniaeth ffederal Irac yn 2005.[18] Yn Iran, mae talaith o'r enw Cwrdistan, ond nid yw'n hunan-lywodraethol. Roedd Cwrdiaid a gwffiodd yn rhyfel cartref Syria'n medru cymeryd rheolaeth o rannau helaeth o ogledd Syria'n ystod y rhyfel fel oedd lluoedd yn ffyddlon i Bashar al-Assad yn tynnu'n ôl i gwffio mewn rhannau eraill o'r wlad. Yn dilyn sefydlu eu llywodraeth eu hunain, galwodd rhai Cwrdiaid am sefydlu hunan-lywodraeth mewn Syria ddemocratig; gobeithiai eraill sefydlu Gwrdistan annibynnol.[19]
- ↑ "Kurdistan".
- ↑ The Edinburgh encyclopaedia, conducted by D. Brewster—Page 511, Original from Oxford University—published 1830
- ↑ An Account of the State of Roman-Catholick Religion, Sir Richard Steele, Published 1715
- ↑ N. Maxoudian, Early Armenia as an Empire: The Career of Tigranes III, 95–55 BC, Journal of The Royal Central Asian Society, Vol. 39, Issue 2, April 1952 , pp. 156–163.
- ↑ A.D. Lee, The Role of Hostages in Roman Diplomacy with Sasanian Persia, Historia: Zeitschrift für Alte Geschichte, Vol. 40, No. 3 (1991), pp. 366–374 (see p.371)
- ↑ M. Sicker, The pre-Islamic Middle East, 231 pp., Greenwood Publishing Group, 2000, (see p.181)
- ↑ J. den Boeft, Philological and historical commentary on Ammianus Marcellinus XXIII, 299 pp., Bouma Publishers, 1998. (see p.44)
- ↑ J. F. Matthews, Political life and culture in late Roman society, 304 pp., 1985
- ↑ George Henry Townsend, A manual of dates: a dictionary of reference to the most important events in the history of mankind to be found in authentic records, 1116 pp., Warne, 1867. (see p.556)
- ↑ F. Stark, Rome on the Euphrates: the story of a frontier, 481 pp., 1966. (see p.342)
- ↑ Zaken, Mordechai (2007).
- ↑ M. T. O'Shea, Trapped between the map and reality: geography and perceptions of Kurdistan , 258 pp., Routledge, 2004. (see p.77)
- ↑ Kurdistan[dolen farw], Britannica Concise.
- ↑ Kurdish Awakening: Nation Building in a Fragmented Homeland, (2014), by Ofra Bengio, University of Texas Press
- ↑ "The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition, 2005". bartleby.com.
- ↑ "The Kurdish Conflict: Aspirations for Statehood within the Spirals of International Relations in the 21st Century" Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Hamit Bozarslan “The Kurdish Question: Can it be solved within Europe?”, page 84 “The years of silence and of renewal” in Olivier Roy, ed.
- ↑ Iraqi Constitution, Article 113.
- ↑ "Kurds seek autonomy in democratic Syria".