Baltwyr oedd yn byw yng ngorynys Kurzeme (Gwlad Cwr) yn Latfia yn ystod yr Oesoedd Canol oedd y Cwriaid (Cwroneg: Kursi; Latfieg: kurši). Cafodd eu concro gan y Marchogion Lifonaidd, urdd o groesgadwyr Almaenig, ym 1263 a'u gorfodi i droi'n Gristnogion.[1] Roedd diwylliant ac iaith y Cwriaid yn debyg iawn i'r Latfiaid, a chadwodd eu hunaniaeth ar wahân hyd nes yr 16g pan gafodd eu cymhathu â'r Latfiaid.[2]