Sylwedd ystwyth ac anhydraidd a chanddo gyfernod ffrithiant isel yw cwyr. Mae dau brif fath: cwyrau mwynol, sydd yn hydrocarbonau o bwysau molecylaidd uchel a chanddynt strwythur ficrogrisialaidd; a chwyrau planhigion ac anifeiliaid sydd yn esterau o asidau brasterog sydd yn cyflawni ffwythiant amddiffynnol. Mae hefyd cwyrau organig synthetig sydd yn gyffredinol yn rhannu'r un gyfansoddiad cemegol â chwyrau naturiol.[1]
Mae cwyrau yn debyg i frasterau, er enghraifft mae'r ddau fath o sylwedd yn hydawdd yn yr un sylweddau ac yn gadael marciau saim ar bapur. Mae cwyrau yn tueddu i fod yn llai seimllyd, yn galetach, ac yn freuach na brasterau.[2]