Math | ynysfor |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | De Aegeaidd |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 2,572 km² |
Uwch y môr | 1,008 metr, 233 metr |
Gerllaw | Môr Aegeaidd |
Yn ffinio gyda | Môr Aegeaidd |
Cyfesurynnau | 37°N 25.1667°E |
Cod post | 840–849 |
GR-82 | |
Grŵp o ynysoedd yng Ngwlad Groeg yw'r Cyclades (Groeg: Κυκλάδες) neu Ynysoedd Cyclades. Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Attica ar dir mawr Groeg ac ynys Euboea ym Môr Aegea yn nwyrain y Môr Canoldir. Maen nhw hanner ffordd fwy neu lai rhwng tir mawr Gwlad Groeg, ynys Crete ac arfordir de-orllewin Twrci. Mae'r ynysoedd yn ffurfio cylch bron o gwmpas ynys Delos. Ceir tua 30 o ynysoedd o faint amrywiol yn y grŵp (heb gyfrif y mân ynysoedd niferus). Y ganolfan weinyddol yw Ermoupolis ar ynys Siros. Mae rhai o ynysoedd deheuol y Sporades yn cael eu cyfrif yn rhan o nome (uned weinyddol) y Cyclades hefyd. Mae tua 100,000 o bobl yn byw yn y nome.