Math o ymddygiad rhywiol rhwng pobl neu anifeiliaid yw cyfathrach rywiol neu ymrain. Y modd mwyaf cyffredin o gael rhyw yw i'r gwryw osod ei bidyn yn fagina'r fenyw. Esblygodd cyfathrach rywiol fel rhan o'r broses atgenhedlu, ond mae agweddau emosiynol a chymdeithasol i gyfathrach rywiol yn ogystal â rhai biolegol. Yn wir, yn aml mae pobl yn cael rhyw fel rhan o berthynas, neu er mwyn y cyffro a'r pleser corfforol yn unig, heb gael plant.