Grŵp lobïo yn San Steffan "sy'n gweithio o fewn y Blaid Lafur Brydeinig i hyrwyddo buddiannau Israel"[1] yw Cyfeillion Llafur Israel (Saesneg: Labour Friends of Israel, LFI). Ei gyfarwyddwr yw David Mencer, cyn-wirfoddolwr yn Llu Amddiffyn Israel (Israeli Defence Force) a weithiodd fel cynorthwyydd gwleidyddol i Gwyneth Dunwoody.
Cafodd ei sefydlu yn 1957 ac mae'n mwynhau cefnogaeth sylweddol nifer o Aelodau Seneddol a Gweinidogion Llafur. Roedd Aneurin Bevan yn un o'r sylfaenwyr. Bu'n gyfaill agos i Chaim Weizmann ac ymwelodd ag Israel yn 1954. Ystyriai Israel yn baradwys Sosialaidd.[2] Mae gan y grŵp nifer uchel o aelodau o fewn y Blaid Lafur, wedi'u trefnu yn ganghennau lleol. Mae'n lobi grymus ac mae sawl sylwebydd gwleidyddol yn ystyried fod perthyn i'r grŵp yn gam hanfodol tuag at ennill lle ar fainc flaen y blaid. Mae'r LFI yn cael ei ariannu'n hael gan noddwyr busnes gyda chysylltiadau Seionaidd. Erbyn 2001, roedd Michael Levy, aelod blaenllaw o'r ILF a chyfaill agos Tony Blair ers i'r olaf ymuno a'r ILF yn 1983, wedi cyfrannu £15,000,000 i goffrau'r Blaid Lafur.[3]
Er 25 Medi 2007, ei Gadeirydd yw Jane Kennedy AS. Roedd Gwyneth Dunwoody AS yn Arlywydd hyd ei marwolaeth. Yr Is-Gadeiryddion yw Barbara Keeley AS, Andrew Dismore AS, Louise Ellman AS a Gary Titley ASE. Yr aelodau o'r Cyngor Polisi yw Stephen Byers AS, Derek Foster AS, George Foulkes ASA, Jane Kennedy AS, Paul Murphy AS, Don Touhig AS a Denis MacShane AS. Y Cadeirydd yn Nhŷ'r Arglwyddi yw'r Barwnes Ramsay o Cartvale.