Enghraifft o: | Cyfernod ![]() |
---|---|
Math | nifer (diddimensiwn) ![]() |
Cyfernod adfer gwrthrych (Saesneg:Coefficient of restitution) neu Cyfernod yr adferiad (COR), a ddynodir hefyd gan (e), yw cymhareb y cyflymder cymharol terfynol i gyflymder cymharol cychwynnol rhwng dau wrthrych ar ôl iddynt wrthdaro. Dyma yw'r gwerth ffracsiynol sy'n cynrychioli'r gymhareb o fuaneddau cyn ac ar ôl gwrthdrawiad. Mae gwrthrych gyda chyfernod adfer = 1 yn gwrthdrawio'n elastig, tra bod gwrthrych efo cyfernod adfer < 1 yn gwrthdaro'n anelastig. Mae gwrthrych efo cyfernod adfer = 0 yn stopio mewn gwrthdrawiad heb adlamu o gwbl.