Enghraifft o: | mudiad cymdeithasol, egwyddor ![]() |
---|---|
Math | cyfiawnder ![]() |
Y gwrthwyneb | anghyfiawnder amgylcheddol ![]() |
Mae cyfiawnder amgylcheddol yn gysyniad modern ac yn fudiad cymdeithasol sy'n mynd i'r afael a chymunedau tlawd ac ymylol a beryglir gan echdynnu adnoddau, mwyngloddio, gwastraff peryglus, ayb.[1] Mae'r mudiad wedi cynhyrchu cannoedd o astudiaethau sy'n sefydlu'r patrwm hwn o amlygiad anghyfartal i niwed amgylcheddol,[2] yn ogystal â chorff rhyngddisgyblaethol mawr o lenyddiaeth gwyddorau cymdeithasol sy'n cynnwys ecoleg wleidyddol, cyfraniadau i gyfraith amgylcheddol, a damcaniaethau ar gyfiawnder a chynaliadwyedd.[1][3] Dechreuodd y mudiad cyfiawnder amgylcheddol yn yr Unol Daleithiau yn y 1980au a chafodd ei ddylanwadu'n drwm gan fudiad hawliau sifil America.
Roedd y cysyniad gwreiddiol o gyfiawnder amgylcheddol yn yr 1980au yn canolbwyntio ar niwed i grwpiau brodorol, ymylol o fewn gwledydd cyfoethog fel yr Unol Daleithiau a chafodd ei fframio fel hiliaeth amgylcheddol (environmental racism). Ehangwyd y mudiad yn ddiweddarach i ystyried rhyw, gwahaniaethu amgylcheddol rhyngwladol, ac anghydraddoldebau o fewn grwpiau difreintiedig. Wrth i'r mudiad gael peth llwyddiant mewn gwledydd datblygedig a chyfoethog, mae beichiau amgylcheddol wedi symud i hemisffer y De (er enghraifft trwy echdynnu neu'r fasnach wastraff fyd-eang). Mae'r mudiad dros gyfiawnder amgylcheddol felly wedi dod yn fwy byd-eang, gyda rhai o'i nodau bellach yn cael eu mynegi gan y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r mudiad cyfiawnder amgylcheddol byd-eang yn deillio o wrthdaro amgylcheddol seiliedig ar lefydd lle mae amddiffynwyr amgylcheddol lleol yn aml yn wynebu corfforaethau rhyngwladol sy'n echdynnu adnoddau naturiol y Ddaear ayb. Mae canlyniadau lleol y gwrthdaro hyn yn cael eu dylanwadu fwyfwy gan rwydweithiau cyfiawnder amgylcheddol traws-genedlaethol.[4][5]